Click here to view this email in your browser.

Cliciwch yma i weld yr e-bost yma yn eich porwr

News Newyddion
 
Image of learners taking exams

 

Exams and assessments


This year, learners completed formal exams and assessments for the first time since the start of the pandemic. You can find out more about how qualifications will be awarded this year, and how they will be graded by visiting our website.
 

 

We have also updated our Frequently Asked Questions with more information about arrangements for this year, grading and links to extra support for learners, parents and carers.  

 

Arholiadau ac asesiadau


Eleni, cwblhaodd dysgwyr arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig. I ddysgu mwy am sut bydd cymwysterau yn cael eu dyfarnu eleni, a sut byddan nhw’n cael eu graddio, cer i'n gwefan. 

 

 

Rydyn ni hefyd wedi diweddaru ein Cwestiynau Cyffredin gyda mwy o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer eleni, y system dyfarnu graddau ynghyd â dolenni sy’n rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr. 

 
Thank you Diolch banner

 

Thank you


To mark Thank you Day on 4 July, we would like to say thank you and ‘diolch yn fawr’ to all our learners, parents, carers, guardians, teachers, employers and everyone else in the education sector we have worked so closely with this year. It’s been a tough year, so thank you for all your hard work. 

 

 


Diolch


I nodi Diwrnod Dweud Diolch ar 4 Gorffennaf, hoffen ni ddweud diolch yn fawr i'n holl ddysgwyr, rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid, athrawon, cyflogwyr a phawb arall yn y sector addysg rydyn ni wedi gweithio mor agos â nhw eleni. Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd, felly diolch am eich holl waith caled.

 
Decorative image Have Your Say on Summer 2022 exams

 

Have Your Say

 

Our ‘Have Your Say’ questionnaire on exams 2022 is now closed. Thank you to everyone that took part and shared the questionnaire with others. The feedback we receive will directly help us to monitor the qualification system in Wales. 

 

We will publish a summary of the results on our website soon.

 

 

 

Dweud Eich Dweud

 

Mae ein holiadur ‘Dweud Eich Dweud’ ar arholiadau 2022 bellach wedi cau. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a rannodd yr holiadur gydag eraill. Bydd eich adborth yn ein helpu ni'n uniongyrchol i fonitro'r system gymwysterau yng Nghymru. 
 
Byddwn ni’n cyhoeddi crynodeb o’r canlyniadau ar ein gwefan yn fuan.

 
Group of young students looking at the camera

 

Learner recruitment

 

Can your learners help shape the future of qualifications? 
 
We’re looking for learners between 14-21 years old to join our Learner Advisory Group to ensure the learner voice is embedded into our work. We also have an opportunity for those aged 16+ who are currently taking an apprenticeship, a vocational qualification or in work-based learning to join our Vocational/Work-based Learning Group.  
 
Learners can apply for either group by completing the online application form. 

 

Recriwtio dysgwyr

 

Ydy eich dysgwyr chi’n gallu helpu i siapio dyfodol cymwysterau? 
 
Rydyn ni’n chwilio am ddysgwyr rhwng 14-21 oed i ymuno â’n Grŵp Cynghori i Ddysgwyr i sicrhau bod llais y dysgwr wedi’i wreiddio yn ein gwaith ni. Mae cyfle hefyd i ddysgwyr 16+ oed sydd ar hyn o bryd yn dilyn prentisiaeth, cymhwyster galwedigaethol neu gwrs dysgu seiliedig ar waith i ymuno â’n Grŵp Dysgu Galwedigaethol/Seiliedig ar Waith.  
 
Gall dysgwyr wneud cais ar gyfer y naill grŵp neu'r llall trwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein. 

 
Decorative image of Royal Welsh Show from the air

 

Royal Welsh Show 2022

 

In partnership with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, we will be officially launching our Phase 2 Sector Review on Agriculture, Horticulture and Animal Care at the Royal Welsh Show on 19 July.  

 

The review covers a wide range of subject areas including equine, waste management, environmental conservation, forestry, floristry and vet nursing. The information and evidence gathered has informed the findings of the report, as well as the actions we have taken to address the issues identified.  

 

Following the launch, the report will be published on our website. 

 

Sioe Frenhinol Cymru 2022


Mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd lansiad swyddogol ein Hadolygiad Sector Cam 2 ar Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid yn digwydd yn Sioe Frenhinol Cymru ar 19 Gorffennaf.  
 
Mae'r adolygiad yn cwmpasu ystod eang o feysydd pwnc gan gynnwys ceffylau, rheoli gwastraff, cadwraeth amgylcheddol, coedwigaeth, blodeuwriaeth a nyrsio milfeddygol. Mae'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gasglwyd wedi llywio canfyddiadau'r adroddiad, yn ogystal â'r camau rydyn ni wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd.  
 
Yn dilyn y lansiad, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

 

 
Decorative image of large marquee

 

Eisteddfod 2022

 

The National Eisteddfod will be held in Tregaron, Ceredigion this year, and will run from 30 July to 6 August. Qualifications Wales will have a stand at the Eisteddfod all week. We’d be delighted to meet learners, parents, carers, educators, employers and wider stakeholders, so come along to say hello and learn more about what we do. 

 

Eisteddfod 2022

 

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, Ceredigion eleni, o 30 Gorffennaf i 6 Awst. Bydd gan Cymwysterau Cymru stondin yn yr Eisteddfod drwy'r wythnos. Bydden ni wrth ein boddau yn cwrdd â dysgwyr, rhieni, gofalwyr, addysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid ehangach, felly dewch draw i ddweud helo a dysgu mwy am ein gwaith ni.

 
Staff training for deaf awareness

 

Staff development

 

At Qualifications Wales, we recognise that staff awareness sessions can help create and support an inclusive working environment.  

 

We will be working with the Welsh Council for Deaf People and delivering a Deaf and Deafblind awareness session to our staff in mid July, as well as offering a British Sign Language (BSL) taster session in August.  

 

If you’re interested in coming to work for our organisation, keep an eye out for vacancies on our website.

 

Datblygiad staff

 

Yn Cymwysterau Cymru, rydyn ni’n deall bod sesiynau ymwybyddiaeth staff yn gallu helpu i greu a chefnogi amgylchedd gwaith cynhwysol. 
 
Byddwn ni’n gweithio gyda Chyngor Cymru i Bobl Fyddar ac yn cyflwyno sesiwn ymwybyddiaeth ar Fyddardod a Dallineb-byddardod i’n staff ganol mis Gorffennaf, yn ogystal â chynnig sesiwn flasu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ym mis Awst.  
  
Os oes gen ti ddiddordeb mewn dod i weithio i'n sefydliad ni, cadwa olwg am swyddi gwag ar ein gwefan.

 
Decorative image of exam officers meeting

 

Exam Officers

 

Our Strategic Engagement Team are hosting Network Meetings with all exam officers across Wales on 5 and 6 July. Discussions will include experiences of planning and facilitating the summer exam season.

 

Swyddogion arholiadau


Mae ein Tîm Ymgysylltu Strategol yn cynnal Cyfarfodydd Rhwydwaith gyda'r holl swyddogion arholiadau ledled Cymru ar 5 a 6 Gorffennaf. Bydd y trafodaethau'n cynnwys profiadau o gynllunio a hwyluso tymor arholiadau'r haf.

 
Decorative image showing phone screen with social media icons

 

Follow us
 

Do you follow us on social media? We regularly post all our latest updates bilingually on Twitter, Facebook, Instagram and LinkedIn.

 

Dilyna ni


Wyt ti'n ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni’n postio ein holl newyddion a diweddariadau dwyieithog yn rheolaidd ar Twitter, Facebook, Instagram a LinkedIn.

 
Decorative image showing hand selecting person icon

 

Recruitment

 

Thinking of making a career move? Or perhaps looking for a secondment opportunity? We offer hybrid working, a civil service pension scheme and flexible working arrangements.

 

Keep a look out for exciting new positions on our site: 

 

Current vacancies

 

 

Swyddi
 

Wyt ti'n ystyried gyrfa newydd? Neu efallai dy fod yn chwilio am secondiad? Rydyn ni'n cynnig gweithio hybrid, cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil a threfniadau gweithio hyblyg.

 

Cadwa olwg ar ein gwefan am swyddi newydd cyffrous: 

 

Swyddi gwag cyfredol

 
Decorative image of stack of publications

 

Recent publications

 

Health and Social Care and Children’s Care, Play, Learning and Development Level 3 Rapid Review

 

 

 

Cyhoeddiadau diweddar

 

Adolygiad Cyflym o Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3

 

 

 

www.qualificationswales.org                                                  www.cymwysteraucymru.org

 

You are receiving this mailing as a primary contact at a stakeholder organisation. Please note that we retain your contact details on our systems under the legal basis of processing in the public interest and in accordance with our statutory functions under section 46 of the Qualifications Wales Act 2015. For further details please refer to our privacy notice. 

 

Rydych yn derbyn y cylchlythyr hwn fel prif gyswllt mewn sefyliad rhanddeiliaid. Nodwch ein bod yn cadw eich manylion cyswllt ar ein systemau o dan y sail gyfreithiol o brosesu er budd y cyhoedd, ac yn unol â’n swyddogaethau statudol o dan adran 46 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at ein hysbysiad preifatrwydd.